Winifred (Belt) Evans

Winifred Annie Belt was born on 16th January 1911 in Templeton, Pembrokeshire. She was known affectionately in the village as ‘Aunty Winnie’ and remained there throughout her life.

Interviewed in her older years, Winifred’s recalled visiting Templeton Brickworks, where her father worked, on bright moonlit nights. Their purpose was to check on the lit kilns and Winifred described it as ‘very noisy’. She also remembered how ‘Tramps used to sleep down at the brickworks because it was nice and warm. But it was dangerous for them.’

Winifred’s family later set up a coal yard when the brickworks closed. Her mother went on to run the business singlehandedly when her father died aged just 52.

As a child, Winifred attended Narberth County School caught the daily train from Templeton to Narberth. She remembered the (now defunct) station being very busy with commuters from Martletwy to Whitland. She also regretted not learning Welsh as many of the other passengers spoke the language. Winifred’s Aunt also lived in Whitland and she often went to dances while visiting the town (although she ‘only watched’ and did not take part).

 Winifred’s other hobbies included going to the cinema with her friends Annie and Doris. She described Templeton Fair was ‘exciting’ and remembered the cattle tied up outside Templeton Farm and rides for the children in the village. The fair was held annually on 12th of November and would have originated as a ‘Hiring Fair’. These were the medieval method of finding employment for non-landowning men and unmarried girls, but as the tradition died out, the fairs continued as a place to sell livestock, butter and eggs. Travelling showmen would also provide entertainment, booths and different rides.

Templeton fair survived until the outbreak of the First World War and was famous for the traditional Katt’s pie (which was possibly named after a local baker). In the lead-up to the fair there was a flurry of baking between houses trying to outdo their neighbours in the making of the pies. These were often sent to relatives or even soldiers fighting in the Great War and were described as a cross between a pork pie and a mince pie.

Winnie’s Mother insisted she had piano lessons and made her practice an hour every day. She did not enjoy this, but did win ‘a cup for playing at the Narberth Eisteddfod in the Victoria Hall in 1924 so it was worth it’. As a result of her perseverance, Winifred went on to play the organ at the local chapel for 60 years and was presented with a silver bowl.

Chapel played a big part in Winifred’s life and she volunteered as a Sunday school teacher. She described how ‘every summer (they) would go on a trip usually to Saundersfoot. The Sunday school helpers would take cake and sandwiches and even sticks so (they) could light a fire on the beach and make tea. In the early days (they) would catch a train to Saundersfoot and walk or run to the beach’. She also recalled going to Aberystwyth in an open charabanc with the newly formed ‘Young People’s Guild’ in 1925.

In Templeton the local shop and Post Office was run by two sisters and Winifred initially helped them out. When the sisters retired, her Mother took over until Winnie was 21 and able to take over the business. She enlisted the help of an ‘odd job man’ who also worked mostly on a local farm and did not receive a wage, but if he wanted money he would say ‘Can I have a little shilling today please’.

Winnie was the sub-postmistress at Templeton for 21 years until she got married to Thomas Evans when she was 42 years old. She described her ‘busiest time’ as when Templeton aerodrome was being built during the Second World War. She recalled ‘a lot of Irishmen (who) used the Post Office after work’ so she stayed open in the evenings for them.

Templeton airfield was constructed in 1941, as the fear of an enemy invasion brought a need to defend convoys in the Bristol Channel. Labour was in very short supply and it was rumoured locally that if you could knock a nail into a piece of wood you could get a job as a carpenter. This led to a need to employ labourers from Ireland who lodged locally or even lived on site. Their presence more than doubled the population of Templeton and a cinema was provided for both lodgers and locals, while local shops and pubs benefitted greatly from increased trade.

One evening during the war, Winnie recalled going into the Post Office to get a pen and turning on the light during a black-out curfew. The light was seen and she was summoned but was too embarrassed to go to court so her brother went instead!

Winifred died in 2008 aged 97. Her memories reveal much about the way of life in early 20th Century rural Pembrokeshire.

Ganed Winifred Annie Belt ar yr 16eg o Ionawr 1911 yn Nhredeml, Sir Benfro. Gymaint oedd yr hoffter ohoni fel y gelwid hi gan bawb yn ‘Anti Winnie’, ac yn Nhredeml y bu’n byw am weddill ei hoes. 

Gwnaed cyfweliad â Winnie yn ei henoed pan oedd yn hel atgofion am ymweld â Gwaith Brics Tredeml, lle’r oedd ei thad yn gweithio, ar nosweithiau o olau lleuad. Diben yr ymweliadau hyn oedd sicrhau bod yr odynau yn dal ynghynn, a disgrifiodd Winifred y gwaith fel lle ‘swnllyd iawn’. Cofiodd hefyd sut oedd y ‘tramps yn cysgu ar lawr y gwaith brics gan fod y lle yn braf ac yn gynnes. Ond roedd hyn yn beryglus iddyn nhw’.  

Yn ddiweddarach sefydlodd teulu Winifred iard lo pan gaeodd y gwaith brics. Aeth ei mam ymlaen i redeg y busnes ar ei phen ei hun pan fu farw ei thad yn ŵr ifanc 52 oed. 

Fel plentyn, aeth Winifred i Ysgol Sirol Arberth gan ddal y trên dyddiol o Dredeml i Arberth. Roedd yn cofio bod yr orsaf (sydd bellach wedi cau) yn brysur iawn gyda theithwyr yn teithio i’w gwaith o Martletwy i Hendy-gwyn ar Daf. Hefyd roedd yn difaru peidio â dysgu Cymraeg gan fod llawer o’r teithwyr eraill yn siarad yr iaith. Roedd modryb Winifred hefyd yn byw yn Hendy-gwyn ar Daf ac yn aml byddai’n mynd i ddawnsfeydd tra’n ymweld â’r dref (er mai ‘dim ond gwylio’ a wnâi ac nid cymryd rhan).

Ymhlith diddordebau eraill Winifred oedd mynd i’r sinema gyda’i ffrindiau Annie a Doris. Disgrifiodd Ffair Tredeml fel diwrnod ‘cyffrous’ ac roedd yn cofio’r gwartheg wedi’u clymu y tu allan i Fferm Tredeml a reidiau i blant y pentref. Cynhaliwyd y ffair bob blwyddyn ar y 12fed o Dachwedd fyddai wedi bod yn ‘Ffair Logi’ yn wreiddiol. Y ffeiriau hyn oedd y dull canoloesol o ddod o hyd i weision nad oeddent yn dirfeddianwyr a morynion di-briod, ond wrth i’r traddodiad farw, parhaodd y ffeiriau fel lle i werthu da byw, menyn ac wyau. Byddai siewmyn teithiol hefyd yn cynnig adloniant, bythau a gwahanol reidiau. 

Parhawyd i gynnal ffair Tredeml tan ddechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf ac roedd yn enwog am y pastai traddodiadol Katt (a enwyd o bosibl ar ôl pobydd lleol). Yn y diwrnodau cyn y ffair byddai pobi brwd yn mynd ymlaen yn y tai oedd yn ceisio pobi pastai mwy blasus na’u cymdogion. Yn aml, byddai’r pasteiod hyn yn cael eu hanfon at berthnasau neu hyd yn oed at y milwyr oedd yn ymladd yn y Rhyfel Mawr, a disgrifiwyd y pasteiod hyn fel croesiad rhwng pastai porc a mins pei.

Mynnodd Mam Winnie ei bod yn cael gwersi piano ac yn ymarfer chwarae’r piano am awr bob dydd. Nid oedd yn hoffi’r ymarfer, ond enillodd ‘gwpan am chwarae’r piano yn Eisteddfod Arberth yn Neuadd Victoria yn 1924 felly roedd yr holl ymarfer wedi talu’r ffordd’. Canlyniad y dyfalbarhad hwn oedd bod Winifred wedi mynd ymlaen i chwarae’r organ yn y capel lleol am 60 mlynedd, a derbyniodd fowlen arian am ei gwasanaeth hir.  

Roedd y capel yn chwarae rhan fawr ym mywyd Winifred a gwirfoddolodd fel athrawes ysgol Sul. Disgrifiodd fel y byddent ‘bob haf yn mynd ar drip ysgol Sul i Saundersfoot fel arfer. Byddai cynorthwywyr yr ysgol Sul yn mynd â chacenni a brechdanau a hyd yn oed prennau, fel y gallen nhw gynnau tân ar y traeth i wneud te. Yn y dyddiau cynnar byddent yn dal trên i Saundersfoot ac yn cerdded neu’n rhedeg i’r traeth’. Hefyd roedd yn cofio mynd i Aberystwyth mewn siarabang agored gyda mudiad yr Urdd oedd newydd ei ffurfio yn 1925. 

Yn Nhredeml, roedd y siop a’r Swyddfa Bost leol yn cael eu rhedeg gan ddwy chwaer, a byddai Winifred yn eu helpu o bryd i’w gilydd. Pan ymddeolodd y ddwy chwaer, cymerodd ei Mam yr awenau hyd nes bod Winnie yn 21 oed ac yn gallu cymryd drosodd y busnes. Cafodd gymorth gan ŵr allai droi ei law at unrhyw beth oedd hefyd yn gweithio yn bennaf ar fferm leol ac nad oedd yn derbyn cyflog, ond pan fyddai angen arian arno byddai’n dweud ‘Alla i gael swllt fach heddi os gwelwch yn dda’. 

Winnie oedd yr is-bostfeistres yn Nhredeml am 21 mlynedd tan iddi briodi Thomas Evans pan oedd yn 42 oed. Dywedodd mai ei ‘hamser prysuraf’ oedd pan oedd maes awyr Tredeml yn cael ei adeiladu yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd hi’n cofio ‘nifer o Wyddelod yn defnyddio Swyddfa’r Post ar ôl gwaith’ felly roedd yn aros ar agor gyda’r hwyr ar eu cyfer.

Adeiladwyd maes glanio Tredeml ym 1941, oherwydd y pryder y byddai ymosodiad gan y gelyn yn golygu bod angen amddiffyn llongau yn y Môr Hafren. Roedd llafur yn brin iawn ac roedd si yn lleol y gallech gael swydd fel saer os gallech chi daro hoelen mewn darn o bren. Arweiniodd hyn at yr angen i gyflogi gweithwyr o Iwerddon oedd yn lletya yn lleol neu hyd yn oed yn byw ar y safle. Roedd eu presenoldeb wedi mwy na dyblu poblogaeth Tredeml, a darparwyd sinema ar gyfer y lletywyr a’r trigolion lleol, tra bod y siopau a’r tafarndai lleol wedi elwa’n fawr o’r cynnydd yn eu masnach.

Roedd Winnie yn cofio mynd i mewn i Swyddfa’r Post un noson yn ystod y rhyfel i gael pen ysgrifennu a throi’r golau ymlaen yn ystod blacowt. Gwelwyd y golau a chafodd ei gwysio i ymddangos gerbron llys, ond roedd gormod o gywilydd arni i fynd i’r llys felly aeth ei brawd yn ei lle!

Bu farw Winifred yn 2008 yn 97 oed. Mae ei hatgofion yn datgelu llawer am y ffordd o fyw yng nghefn gwlad Sir Benfro ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. 

Categories: Agriculture | Business | Public Servants | War Effort

Related entries: