Rachel Davies was born on 6th March 1917 in Narberth, Pembrokeshire. She spent her childhood at Ash Villa Spring Gardens (pictured) and her career at John Horniman School in Worthing where she worked with autistic children.
During the Second World War, Ray served in the Wrens (Women’s Royal Naval Service) and was reported to have worked at Bletchley Park. Local reports from 1944 mysteriously state that ‘Rachel Davies of Pembrokeshire (was) engaged in important secret work at a port in North West Europe’. This work was subsequently reported as being the ‘guarding of ports’ secrets’.
In a letter to her parents, Ray writes: ‘I had to work on Good Friday but dashed off at night just in time for the service at the garrison church. The Band of the Welsh Guards played and the WWCA choir sang lovely music. The service was beautiful and it was worth missing my supper to attend’.
Although Ray’s words do not initially appear to offer much insight into the scope and detail of her time in the Wrens, what does come across is a sense of relative freedom and adventure. She was also exposed to a wider cultural experience in Belgium than Narberth had to offer. For example, ‘she was able to see the Sadler Wells Ballet (and see)…the Great War graves and…the cathedral at Ypres’ and also spent time in London where ‘she was surprised to meet two friends whom she knew’.
Back home, Ray was an active member of St. Andrew’s Church and the Girl Guides. She was ‘an avid collector’ and founder member of Narberth Museum who ‘had a passionate interest in the history of the town’. Her ‘notebooks contain nuggets of information that cannot be found elsewhere’.
Ray died at Sunnybank Nursing Home on 5th April 2005. She was 88 years old.
Ganed Rachel Davies ar y 6ed o Fawrth 1917 yn Arberth, Sir Benfro. Treuliodd ei phlentyndod yn Ash Villa, Gerddi’r Gwanwyn (yn y llun) a’i gyrfa yn Ysgol John Horniman yn Worthing lle bu’n gweithio gyda phlant awtistig.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu Ray yn gwasanaethu yn y Wrens (Gwasanaeth Llynges Brenhinol y Merched) a dywedwyd ei bod wedi gweithio ym Mharc Bletchley. Mae adroddiadau lleol o 1944 yn nodi bod ‘Rachel Davies o Sir Benfro wedi bod yn cymryd rhan mewn gwaith cyfrinachol pwysig mewn porthladd yng Ngogledd Orllewin Ewrop’. Dywedwyd yn ddiweddarach mai’r gwaith hwn oedd ‘gwarchod cyfrinachau’r porthladd’.
Mewn llythyr at ei rhieni, ysgrifennodd Ray: ‘Roedd yn rhaid i mi weithio ddydd Gwener y Groglith ond fe wnes i adael gyda’r hwyr mewn pryd ar gyfer y gwasanaeth yn eglwys y garsiwn. Roedd Band y Gwarchodlu Cymreig yn chwarae ac roedd côr y WWCA wedi canu’n hyfryd. Roedd y gwasanaeth yn fendigedig ac roedd yn werth colli fy swper i fod yno’.
Er nad yw’n ymddangos ar y dechrau bod geiriau Ray yn cynnig llawer o fewnwelediad i gwmpas a manylder ei chyfnod yn y Wrens, yr hyn sy’n dod yn amlwg yw’r ymdeimlad o ryddid ac antur. Roedd hi hefyd yn agored i brofiadau diwylliannol ehangach yng Ngwlad Belg nag oedd gan Arberth i’w gynnig. Er enghraifft, ‘roedd hi’n gallu gweld Bale Sadler Wells a gweld … beddau’r Rhyfel Mawr a’r … eglwys gadeiriol yn Ypres’, a threuliodd amser yn Llundain hefyd ‘lle’r oedd hi wedi cael syndod o gwrdd â dau ffrind yr oedd hi yn eu hadnabod’.
Yn ôl adref, roedd Ray yn aelod gweithgar o Eglwys St Andrew a’r Girl Guides. Roedd hi’n ‘gasglwr brwd’ ac yn un o sylfaenwyr Amgueddfa Arberth ‘oedd â diddordeb angerddol yn hanes y dref’. Mae ei ‘llyfrau nodiadau yn cynnwys pytiau o wybodaeth o bwys na ellir eu canfod yn unman arall’.
Bu farw Ray yng Nghartref Nyrsio Sunnybank ar y 5ed o Ebrill 2005. Roedd yn 88 mlwydd oed.