Mary Hulton,known as Molly, was born in Tenby on 13 October 1896, the daughter of Reginald and Sidney Alice Hulton.
She joined the Voluntary Aid Detachment in November 1915 to provide nursing care for injured soldiers. In June 1915 the Tenby Observer recorded her as ‘a member of the Manorbier Voluntary Aid Detachment (who)has been working at the Pembroke Dock Military Hospital,(and) has volunteered for special service with the Red Cross Society. In February 1915 the War Office proposed that volunteers could help at Military Royal Army Medical Corps (RAMC) hospitals, (previously staffed exclusively by army nurses and orderlies from the RAMC). Military hospitals first requested these “special service” VADs in England early in 1915. Requests from France came in May of that year to be quickly followed by demands from Malta and Egypt.
Mary worked for the Red Cross at base hospitals in France and in November 1918 her ‘gallant and distinguished services’ were mentioned in Field Marshal Douglas Haig’s dispatches. Her service record extended until April 1919.
After the war she became involved locally with numerous organisations including the British Legion, the Girl Guides, the Royal National Lifeboat Institution, The Friends of Tenby Cottage Hospital and also served as President of Tenby Golf Club Ladies Section. Whilst in Tenby she lived with her brother Edward in Harding Street. Mary died in Tenby Cottage Hospital in 1979.
Ganed Mary Hulton, a elwid Molly, yn Ninbych-y-pysgod ar 13 Hydref 1896, merch Reginald a Sidney Alice Hulton.
Ymunodd â’r Fintai Cymorth Gwirfoddol fis Tachwedd 1915 i roi gofal nyrsio i filwyr oedd wedi’u hanafu. Fis Mehefin 1915, nodwyd yn y Tenby Observer ei bod hi’n ‘aelod o Fintai Cymorth Gwirfoddol Maenorbŷr’ ac wedi bod yn gweithio yn Ysbyty Milwrol Doc Penfro ac wedi gwirfoddoli ar wasanaeth arbennig gyda Chymdeithas y Groes Goch. Fis Chwefror 1915 cynigiodd y Swyddfa Ryfel y gallai gwirfoddolwyr helpu mewn ysbytai Corfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin, (a arferai gael eu staffio gan nyrsys a swyddogion y fyddin o’r Corfflu hwn). Y tro cyntaf i’r ysbytai milwrol ofyn am gymorth y gwirfoddolwyr “gwasanaeth arbennig” hyn yn Lloegr oedd yn gynnar yn 1915. Daeth ceisiadau o Ffrainc fis Mai y flwyddyn honno ac yn fuan wedyn daeth ceisiadau gan Malta a’r Aifft.
Gweithiodd Mary i’r Groes Goch mewn ysbytai sylfaen yn Ffrainc, a fis Tachwedd 1918, cyfeiriwyd at ei ‘gwasanaethau dewr a chlodwiw’ yn adroddiadau Maeslywydd Douglas Haig. Parhaodd ei chofnod gwasanaeth tan fis Ebrill 1919.
Ar ôl y rhyfel dechreuodd ymwneud yn lleol â nifer o sefydliadau gan gynnwys y Lleng Brydeinig, y Geidiaid, Sefydliad Brenhinol y Badau Achub, Cyfeillion Ysbyty Bwthyn Dinbych-y-pysgod, a bu hefyd yn gwasanaethu fel Llywydd Adran Merched Clwb Golff Dinbych-y-pysgod. Tra yn Ninbych-y-pysgod roedd hi’n byw gyda’i brawd Edward yn Stryd Harding. Bu Mary farw yn Ysbyty Bwthyn Dinbych-y-pysgod ym 1979.
Yn ôl yr un papur newydd yn ddiweddarach: ‘Mae adroddiadau gan yr Is-Gadfridog CF Milne, Cadbennaeth ym Myddin Salonica, yn cynnwys enw Miss Dorothy E Lord… Roedd Miss Lord, y cyfeirir ati am ei dewrder, wedi ymuno â’r Gymdeithas Groes Goch fel gwirfoddolwraig yn 1915, ac ar ôl gwasanaethu am ddeunaw mis yn Ysbyty’r Brenin Siôr yn Llundain, aeth i Salonica fis Ebrill 1917. Mae hi wedi bod yn cyflawni ei dyletswyddau yn yr ysbytai yno ers hynny.’ (6 Chwefror 1919)
Roedd yr ymgyrch yn y Dwyrain Canol yn Salonica weithiau yn cael ei galw yn ‘Rhyfel y Doctor’ gan fod tirwedd hardd ond caled gwlad Groeg yn achosi mwy o broblemau na’r gelyn. Sefydlwyd ysbytai ar y mynyddoedd o amgylch y ddinas. Roedd bywyd y nyrsys yn fywyd caled, gyda’r gaeafau rhewllyd, hafau chwilboeth, pryfed, morgrug, nadroedd cantroed, sgorpionau a glaw. Roedd y nyrsys yn cymryd eu tro i weithio dros nos am gyfnodau o tua mis ar y tro ac roedd rhaid iddynt wisgo llen mosgito dros eu hwynebau, menig trwchus hyd y benelin ac esgidiau yng ngwres yr haf i arbed rhag cael eu brathu. Parhaodd yr ymgyrch rhwng mis Hydref 1915 a mis Medi 1918.
Bu farw Dorothy Lord yn 1980.