Margaret Morgan

Margaret Morgan was born in Llandeilo in 1835 and came to Carmarthen to work.

By 1881, Margaret was the Parish Mission Woman as well as being the Matron employed by the Carmarthen Maternity Charity. As part of her work, she visited the homes of poor families in the town, bringing them food, warm bedding and medicines. She was given free accommodation here on condition that she opened her rooms once a week to any poor woman or child who would be encouraged to read, sew or knit.

Margaret ran a savings club for the poor and encouraged women to have their children christened in the Parish Church.

By 1891, Margaret Morgan had moved to Pershore to become housekeeper to a woman who she had known as a young woman in Carmarthen.

Margaret Morgan may be regarded as the woman who ran the first ‘safe house’ for women and children in the town.

Ganed Margaret Morgan yn Llandeilo yn 1835 a daeth i Gaerfyrddin i weithio. 

Erbyn 1881, Margaret oedd Menyw Genhadol y Plwyf yn ogystal â bod yn Fetron a gyflogid gan Elusen Mamolaeth Caerfyrddin. Fel rhan o’i gwaith, ymwelai â chartrefi teuluoedd tlawd yn y dref, gan ddod â bwyd, dillad gwely cynnes a meddyginiaethau iddynt. Fel rhan o’i chyflogaeth cafodd lety am ddim yma yn 17 Stryd Spilman ar yr amod ei bod yn agor ei hystafelloedd unwaith yr wythnos i unrhyw fenyw dlawd neu blentyn yn y dref a gâi eu hannog i ddarllen, gwnïo neu wau.

Roedd Margaret yn rhedeg clwb cynilo ar gyfer y tlawd hefyd ac yn annog menywod i fedyddio eu plant yn Eglwys y Plwyf.

Erbyn 1891, roedd Margaret Morgan wedi symud i Pershore a bu yn cadw tŷ i fenyw yr oedd hi wedi’i hadnabod fel merch ifanc. Gellir ei hystyried fel y fenyw gyntaf i redeg lloches i ferched a phlant yn y dref.

Courtesy of Carmarthen Civic Society, Carmarthenshire Antiquarian Society and Women’s Archive Wales.

Categories: Philanthropists | Public Servants | Revolutionaries | Uncategorized

Related entries: