Amy Thomas

Alice Amy Thomas was born in Lampeter Velfrey, Pembrokeshire in 1903. When her father was appointed Station Master, the family moved to Saundersfoot and Amy went on to work as a counter clerk at the village Post Office.

One of her responsibilities during these final days of the First World War, (while still in her teens) was to operate the telephone switchboard at the back of the Post Office. This would involve connecting incoming calls with larger telephone exchanges at key centres across the country.

After the war, as the popularity of the telephone system grew, Amy was transferred to Swansea Telephone Exchange on Wind Street where she worked as a telephonist. She subsequently worked in Tredegar, Newport and Mumbles before returning to Swansea in 1929 where she was later promoted to supervisor.

By 1950, Amy was working as Chief Supervisor in Swansea. Twelve years later she was living at Ravenhill Road, Fforestfach and was awarded the Imperial Service Medal for her contribution to the growing communications network in Wales. She retired the same year and died in 1982.

Ganed Alice Amy Thomas yn Llanbedr Felffre, Sir Benfro yn 1903. Pan benodwyd ei thad yn Orsaf Feistr, symudodd y teulu i Saundersfoot ac aeth Amy ymlaen i weithio fel clerc cownter yn Swyddfa Bost y pentref.

Un o’i chyfrifoldebau yn ystod diwrnodau olaf y Rhyfel Byd Cyntaf (tra oedd yn dal yn ei harddegau) oedd gweithredu’r switsfwrdd ffôn yng nghefn Swyddfa’r Post. Byddai hyn yn golygu cysylltu galwadau oedd yn dod i mewn â chyfnewidfeydd ffôn mwy o faint mewn canolfannau allweddol ledled y wlad.

Ar ôl y rhyfel, wrth i boblogrwydd y system ffôn dyfu, trosglwyddwyd Amy i Gyfnewidfa Ffôn Abertawe ar Stryd y Gwynt lle bu’n gweithio fel teleffonydd. Wedi hynny bu’n gweithio yn Nhredegar, Casnewydd a’r Mwmbwls cyn dychwelyd i Abertawe yn 1929 lle cafodd ei dyrchafu’n oruchwylydd yn ddiweddarach.

Erbyn 1950, roedd Amy yn gweithio fel Prif Oruchwylydd yn Abertawe. Ddeuddeng mlynedd yn ddiweddarach roedd hi’n byw yn Heol Ravenhill, Fforest-fach, a dyfarnwyd Medal y Gwasanaeth Ymerodrol iddi am ei chyfraniad i’r rhwydwaith cyfathrebu cynyddol yng Nghymru. Ymddeolodd yr un flwyddyn a bu farw yn 1982.

With thanks to Guy Thomas.

Categories: Public Servants | Uncategorized | War Effort

Related entries: