Gunilda Griffiths

Gunilda Margaret Griffiths was born in 1883 at Style Farm in Bosherston, which can still be seen today (renovated and looking very pretty hung with slates, on the left hand side of the road, just before Bosherston Church).

Gunilda’s grandfather was born in 1839 at St. Florence, but later moved to Style Farm, and the census of 1871 shows that he was living there with 2 of his children, Thomas and Martha, and they had two domestic servants and four agricultural servants. Thomas married Agnes Griffiths (formerly Stephenson from Lammaston Farm, Pembroke, although she was born in Swansea) and at some point must have taken over the tenancy of the farm from his father.

The farm was one of the tenanted farms belonging to the Campbell’s of Cawdor family, the owners of the Stackpole Estate. A diary entry from Agnes on Sunday 4th January 1885 states that ‘Lady Evelyn Campbell called to wish me a happy New Year’ as would have been the custom towards tenant farmers. Gunilda was the second of the five children of Thomas and Agnes. Thomas was a church warden at Bosherston Church, as was one of his sons who carried on until 1962. Thomas was also an Overseer and as part of this, his duty was to ensure the correct burial of any person who died at sea on ships that came near the part of the coast where they lived, including those from shipwrecks. Indeed, Gunilda’s sister wrote to her in 1906, when she was working at a Vicarage in Cwmavon, telling her of the event of a nearby shipwreck and in 1907 when she was working in Narberth she received a postcard showing her the position (marked with a cross) where the ship, the Nertherhome, went up on the rocks.

Gunilda looked after animals at Style Farm, the chickens and ducks being sold at market in Pembroke Dock. She received some early education ( perhaps in Bosherston) before going to Pembroke Dock Intermediate School with her sister when she was old enough. It is thought that she lodged with an aunt or others as she could not feasibly have travelled the long distance to and fro to Bosherston every day. It is speculated that she went home at weekends and followed this routine until she was 18 years old.

Gunilda’s school report of 1897 states that she ‘has worked well and made good progress’, and that her ‘conduct was excellent.’ After leaving school, there are records showing she worked in various places. In 1905 she was at a Vicarage in Cwmafon. From 1907- 1910 she was at Narberth Rectory, perhaps looking after the children (but not as a Governess) and in 1911 she was Housekeeping for a farmer, George Hitchings, at Buckspool Farm in Bosherston.

By 1915 Gunilda was a Red Cross Nurse working at the large Military Hospital at Llanion, Pembroke Dock, (now where Wilkinson’s and the adjacent industrial site are) and it seems she did this from 1911 as that year,  the Pembrokeshire Red Cross Societywere asked to provide Voluntary Aid Detachments (VAD’s) to staff the hospital at Pembroke Dock in the event of war. These VAD’s were highly valued and even worked as cooks sometimes, as their skills were thought to be higher than the locally employed regular cooks!

Gunilda received medals for her Red Cross work and, during the First World War, also worked for the Pembrokeshire Welsh War Agricultural Committee (PWWAC). This involved organising women working on the land and travelling around Pembrokshire speaking to farmers, school children and groups of various sorts about the need for more agricultural production in the war effort. Her diary from 1917 paints a vivid picture of her work for those years, how she cycled many miles between villages and farms, often in terrible weather to mobilise food production and help with organising farm labour. Her diary from the time offers an important insight into the work of local women during the time. She writes: ‘Sat 29th December:  It appears that all Llangwm women are already employed doing good work with the fishing boats etc. There is also a likelihood of men labour imported there if required’. She continues: ‘Wednesday January 2nd: “Called Post Office. Letter from Mr Jones, Jerheston Horticultural Rep, who has asked us to fix date of meeting at Joneston School. Cycled 6 miles to Bletherson and Penfordd, called at school. Mr Davies, School Master who will send me list of names. Cycled from there over very bad road in fact had to walk all the way to Bletherston called at Longridge (Mr Harris) who will be short of labour for the Harvest and … time he had soldiers last year though they were no use ,he said. Mr Evans Bleth and Mr Griffiths Farms close to each other. Mr Evans would employ women if they were lodged in village or Cottage which is at present empty, Mr Harris also has an empty cottage , all the farmers in that district are in favour of imported women labour as the women in the village are already working and the inhabitants of village are very few…….. Walked all the way from Bletheson (roads bad) and dark at 6o’clock to Pemathdd had supper there Mr and Mrs Thomas exceedingly kind.’

After the war Gunilda went on to marry William Henry Lewis in 1920 at St. Florence and had 3 children. They farmed near Huntledon at Upper Castleton Farm and were married for 30 years. Her legacy provides an essential insight into both Welsh rural life and the role of women during the First World War.  

Ganed Gunilda Margaret Griffiths yn 1883 ar Fferm Style yn Bosherston.  Mae’r fferm i’w gweld hyd y dydd heddiw (wedi’i hadnewyddu ac yn edrych yn bert iawn â llechi yn orchudd, ar ochr chwith y ffordd, ychydig cyn Eglwys Bosherston).

Ganed tad-cu Gunilda yn 1839 yn St. Florence, ond symudodd yn ddiweddarach i Fferm Style, ac yn ôl cyfrifiad 1871 roedd yn byw yno gyda 2 o’i blant, Thomas a Martha, ac roedd ganddynt ddwy forwyn a phedwar gwas.  Priododd Thomas ag Agnes Griffiths (Stephenson cyn priodi o Fferm Lammaston, Penfro, er iddi gael ei geni yn Abertawe) ac ar ryw adeg mae’n rhaid bod Thomas wedi cymryd tenantiaeth y fferm oddi ar ei dad.

Roedd y fferm yn un o’r ffermydd tenantiaeth oedd yn berchen i’r Campbells o deulu Cawdor, perchnogion Ystâd Ystagbwll.  Roedd Agnes wedi cofnodi yn ei dyddiadur ddydd Sul y 4ydd o Ionawr 1885 bod ‘y Fonesig Evelyn Campbell wedi galw heibio i ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i fi’ yn unol â’r arferiad gyda ffermwyr oedd yn denantiaid.  Gunilda oedd yr ail o bump o blant Thomas ac Agnes.  Roedd Thomas yn warden yn Eglwys Bosherston, yn yr un modd ag un o’i feibion a barhaodd yn warden yr eglwys tan 1962.  Hefyd roedd Thomas yn Oruchwyliwr ac fel rhan o hyn, ei ddyletswydd oedd sicrhau bod unrhyw berson fu farw ar y môr ar longau a ddaeth gerllaw’r rhan o’r arfordir lle’r oeddent yn byw, gan gynnwys y rhai o longddrylliadau, yn cael eu claddu yn gywir.  Yn wir, ysgrifennodd chwaer Gunilda ati yn 1906, pan oedd yn gweithio mewn Ficerdy yng Nghwmafon, yn dweud wrthi am achos o longddrylliad gerllaw, ac yn 1907 pan oedd yn gweithio yn Arberth, derbyniodd gerdyn post yn dangos iddi yr union fan (wedi’i nodi â chroes) lle sgubwyd y llong, y Nertherhome, ar y creigiau.

Roedd Gunilda yn gofalu am yr anifeiliaid ar Fferm Style, a’r ieir a’r hwyaid yn cael eu gwerthu yn y farchnad yn Noc Penfro.  Derbyniodd rywfaint o addysg gynnar (yn Bosherston o bosibl) cyn mynd i Ysgol Ganolradd Doc Penfro gyda’i chwaer pan oedd hi’n ddigon hen.  Credir iddi fod yn lletya gyda’i modryb neu eraill gan na fyddai’n ymarferol iddi fod wedi teithio’r pellter hir yn ôl ac ymlaen i Bosherston bob dydd.  Cymerir ei bod yn mynd adref ar y penwythnos, a pharhau i wneud hyn nes ei bod yn cyrraedd 18 oed.

Mae adroddiad ysgol Gunilda yn 1897 yn nodi ei bod ‘wedi gweithio’n dda ac wedi gwneud cynnydd da’, a bod ei ‘hymddygiad yn rhagorol’.  Ar ôl gadael ysgol, mae cofnodion yn dangos iddi weithio mewn gwahanol lefydd.  Yn 1905 roedd mewn Ficerdy yng Nghwmafon.  O 1907-1910 roedd yn Rheithordy Arberth, o bosibl yn gofalu am y plant (ond nid fel Athrawes) ac yn 1911 roedd hi’n cadw tŷ i ffermwr, George Hitchings, ar Fferm Buckspool yn Bosherston. 

Erbyn 1915 roedd Gunilda yn Nyrs y Groes Goch yn gweithio yn yr Ysbyty Milwrol mawr yn Llanion, Doc Penfro (lle mae siop Wilkinson a’r safle diwydiannol cyfagos erbyn hyn) ac ymddengys iddi wneud hyn o 1911, oherwydd yn y flwyddyn honno, gofynnwyd i Gymdeithas y Groes Goch yn Sir Benfro ddarparu Mintai Cymorth Gwirfoddol i staffio’r ysbyty yn Noc Penfro mewn achos o ryfel.  Roedd y nyrsys hyn yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr ac roeddent hyd yn oed yn gweithio fel cogyddion o bryd i’w gilydd, gan y credid bod eu sgiliau yn uwch na’r cogyddion rheolaidd a gyflogwyd yn lleol!

Derbyniodd Gunilda fedalau am ei gwaith yn y Groes Goch, ac yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gweithiodd hefyd i Bwyllgor Amaeth Rhyfel Sir Benfro.  Roedd hyn yn cynnwys trefnu menywod i weithio ar y tir, a theithio o gwmpas Sir Benfro yn siarad â ffermwyr, plant ysgol ac amrywiol grwpiau am yr angen i gynhyrchu mwy o fwyd yn yr ymdrech ryfel.  Mae  ei dyddiadur o 1917 yn rhoi darlun byw o’i gwaith yn y blynyddoedd hynny, fel yr oedd wedi seiclo milltiroedd lawer rhwng pentrefi a ffermydd, yn aml mewn tywydd ofnadwy, i gymell ffermwyr i gynhyrchu bwyd ac i helpu i drefnu gweithwyr ar y ffermydd.  Mae ei dyddiadur o’r adeg hon yn rhoi cipolwg pwysig i ni o waith menywod lleol yn ystod y cyfnod hwn.  Mae hi’n ysgrifennu: ‘Sadwrn 29 Rhagfyr: Ymddengys bod holl fenywod Llangwm eisoes yn cael eu cyflogi yn gwneud gwaith da gyda’r cychod pysgota ac ati. Mae hefyd yn debygol y bydd dynion yn dod i mewn i weithio yno os bydd angen’. Mae’n parhau: ‘Dydd Mercher 2ail Ionawr: “Gelwais yn Swyddfa’r Post. Llythyr oddi wrth Mr Jones, Cynrychiolydd Garddwriaeth Jerheston, sydd wedi gofyn i ni bennu dyddiad y cyfarfod yn Ysgol Joneston. Wedi seiclo 6 milltir i Bletherson a Penffordd, a galw yn yr ysgol. Bydd Mr Davies, Meistr yr Ysgol, yn anfon rhestr o enwau ataf. Seiclais oddi yno dros ffordd wael iawn, a rhaid oedd cerdded yr holl ffordd i Bletherston, a galw yn Longridge (Mr Harris) fydd yn brin o weithwyr adeg y Cynhaeaf … pan gafodd filwyr y llynedd er nad oeddent fawr o werth, meddai. Mae ffermydd Mr Evans Bleth a Mr Griffiths yn agos at ei gilydd. Byddai Mr Evans yn cyflogi merched pe baent yn cael eu lletya yn y pentref neu mewn Bwthyn sydd ar hyn o bryd yn wag, mae gan Mr Harris hefyd fwthyn gwag, mae pob ffermwr yn yr ardal honno o blaid dod â merched i mewn i weithio yn yr ardal gan fod merched y pentref eisoes yn gweithio ac ychydig iawn o drigolion sydd yn y pentref …… .. Cerddais yr holl ffordd o Bletheson (ffyrdd yn wael) ac yn dywyll erbyn 6 o’r gloch i Pemathdd a chael swper yno, Mr a Mrs Thomas yn hynod garedig.  

Ar ôl y rhyfel aeth Gunilda ymlaen i briodi William Henry Lewis yn 1920 yn St. Florence a chael 3 o blant. Roeddent yn ffermio ger Huntledon ar Fferm Upper Castleton ac yn briod am 30 mlynedd. Mae hanes ei bywyd yn rhoi cipolwg holl bwysig i ni o fywyd yng nghefn gwlad Cymru a rôl menywod yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

With thanks to Valerie John of Llangwm History Group


Categories: Agriculture | Survivors | War Effort

Related entries: