Sarah Jane Rees (Cranogwen)

 Sarah Jane Rees was born on 9th January 1839 in Llangranog, Ceredigion. While attending the village school, Sarah was introduced to Latin and astronomy and spent much of her free time sailing with her father (mariner John Rees), instead of cooking or sewing as convention dictated.

In early adulthood, Sarah Jane sailed on cargo ships travelling to and from France before studying at a Navigation School in London. It was here that she gained her certificate as Master Mariner, which qualified her to command ships anywhere in the world. As such, she set up her own Navigation School in Llangranog in 1859 in spite of opposition based on her gender.

By 1865, Sarah was writing poetry and became the first woman to win a prize for her work at the National Eisteddfod. Her poem, Y Fodrwy Briodasal’ (The Wedding Ring) is a satire on the narrow predetermined role of a married woman that Sarah Jane refused to accept as her own. Instead, she had two significant same-sex relationships with Fanny Rees of Troedyraur (who contracted tuberculosis and died in her arms at her home in Llangranog) and Jane Thomas with who she lived openly for many years.

By 1870 Sarah Jane (known also by her nom de plume, Cranogwen) was well-known as a writer and published her first full-length collection of poetry. The subject of her work ranged from shipwrecks to Welsh identity and she refused to shy away from political issues. In 1878 she became editor of a Welsh-language women’s periodical, Y Frythones, described as ‘a platform for Welsh bluestockings and proto-suffragettes’* that also provided opportunities for female voices and campaigned for girls’ education.

A dedicated Methodist, Cranogwen used her own voice to preach and spread the word on issues such as education and temperance. A compelling speaker, she also worked as a lecturer and co-founded the South Wales Women’s Temperance Union in 1901 to raise awareness of the negative impact of alcoholism on families.

Cranogwen died on 27th June 1916 and is buried in the churchyard at St. Crannogs. A writer, commentator and tireless campaigner for women’s education and social rights (who refused to conform to societal demands on her sexuality or ‘place’), Sarah Jane Rees leaves a lasting legacy on the culture of Wales. She was commemorated by the South Wales Women’s Temperance Union in 1922 when a homeless shelter for women and girls (Llety Cranogwen) was built in the Rhondda.

* Jenkins, Geraint H. (2007). “A Concise History of Wales”. Cambridge University Press.

Ganed Sarah Jane Rees ar y 9fed o Ionawr 1839 yng Llangrannog, Ceredigion. Yn ysgol fach y pentref, cyflwynwyd hi i’r iaith Ladin ac i seryddiaeth, a threuliodd lawer o’i hamser rhydd yn hwylio gyda’i thad (y morwr John Rees), yn lle coginio neu wnïo yn ôl y confensiwn.

Pan yn oedolyn cynnar, bu Sarah Jane yn hwylio ar longau nwyddau oedd yn teithio yn ôl ac ymlaen i Ffrainc cyn astudio mewn Ysgol Morwriaeth yn Llundain. Yma yr enillodd ei thystysgrif fel Llong Feistr, oedd yn ei galluogi i redeg llongau unrhyw le yn y byd. Yn hynny o beth, sefydlodd ei Hysgol Morwriaeth ei hun yn Llangrannog yn 1859 er gwaethaf gwrthwynebiad ar sail ei rhyw.

Erbyn 1865, roedd Sarah yn ysgrifennu barddoniaeth, a hi oedd y fenyw gyntaf i ennill gwobr am ei gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae ei cherdd, ‘Y Fodrwy Briodasol’ yn gerdd ddychanol ar y math o fywyd cul yr oedd disgwyl i fenywod priod ei fyw, ac nad oedd Sarah Jane yn ei ddymuno iddi hi ei hun. Yn lle hynny, bu mewn dwy berthynas arwyddocaol o’r un rhyw â Fanny Rees o Troedyraur (a ddioddefodd y diciâu ac a fu farw yn ei breichiau yn ei chartref yn Llangrannog) a Jane Thomas y bu yn byw yn agored gyda hi am nifer o flynyddoedd.

Erbyn 1870 roedd Sarah Jane (a adwaenir hefyd dan ei henw barddol Cranogwen) yn adnabyddus fel awdur, a chyhoeddodd ei chasgliad llawn cyntaf o farddoniaeth. Roedd testun ei gwaith yn amrywio o longddrylliadau i hunaniaeth Gymreig, a gwrthododd gilio oddi wrth faterion gwleidyddol. Yn 1878 daeth yn olygydd cyfnodolyn menywod Cymraeg, Y Frythones, a ddisgrifiwyd fel ‘llwyfan i ysgolheigesau ac i gyn-swffragetiaid Cymreig’* oedd hefyd yn rhoi llais i fenywod ac yn ymgyrchu dros addysg i ferched.

Yn Fethodist i’r carn, defnyddiodd Cranogwen ei llais ei hun i bregethu a lledaenu’r gair ar faterion megis addysg a dirwest. Yn siaradwraig rymus, bu hefyd yn gweithio fel darlithydd, a chyd-sefydlodd Undeb Dirwestol Merched De Cymru yn 1901 i godi ymwybyddiaeth o effaith negyddol alcoholiaeth ar deuluoedd.

Bu farw Cranogwen ar y 27ain o Fehefin 1916 ac fe’i claddwyd ym mynwent eglwys Sant Crannog. Yn awdur, yn sylwebydd ac yn ymgyrchydd diflino dros addysg a hawliau cymdeithasol i fenywod (a wrthododd gydymffurfio â gofynion cymdeithasol ar ei rhywioldeb neu ei ‘lle’), mae Sarah Jane Rees yn gadael gwaddol barhaol ar ddiwylliant Cymru. Cafodd ei choffáu gan Undeb Dirwestol Merched De Cymru yn 1922 pan adeiladwyd lloches i’r digartref ar gyfer menywod a merched (Llety Cranogwen) yn y Rhondda.

Categories: Arts & Literature | Education | Icons | Revolutionaries

Related entries: