Irene Jane (Ivy) Ace was the only daughter of George and Annie Ace of Tenby. She was born in 1892 and was treated to a flight in Henri Salmet’s Bleriot monoplane for her 21st birthday during his UK tour to promote public interest in aviation.
In September 1917 the Tenby Observer reported ‘Miss Ivy Ace…has this week left en route for France, where she will serve in the Women’s Auxiliary Army Corps’. The WAACs provided essential service for war effort and undertook tasks such as communications, administration, catering and storekeeping.
In June 1918 Ivy was reported as being ‘at present home on leave from France, where she has been on service for nearly twelve months with the W.A.A.C.’s’. Her particular role had been a Technical Administrator.
After leaving the WAACs she became a student at the Midland Agricultural and Dairy College at Kingston-on-Soar.
Irene Jane (Ivy) Ace oedd unig ferch George ac Annie Ace o Ddinbych-y-pysgod. Ganed hi yn 1892 ac ar ei phen-blwydd yn 21ain oed ei hanrheg arbennig oedd cael hedfan mewn awyren monoplan Bleriot Henri Salmet yn ystod ei daith ar hyd a lled y DU i ennyn diddordeb y cyhoedd mewn hedfan.
Fis Medi 1917 nodwyd yn y Tenby Observer ‘Mae Miss Ivy Ace… yr wythnos hon wedi gadael ar ei ffordd i Ffrainc, lle bydd yn gwasanaethu yng Nghorfflu Byddin Gynorthwyol y Merched’. Roedd y Corfflu hwn yn cynnig gwasanaeth hanfodol i’r ymdrech ryfel ac yn ymgymryd â thasgau megis cyfathrebu, gweinyddu, arlwyo a chadw stôr.
Fis Mehefin 1918, nodwyd bod Ivy ‘gartref ar hyn o bryd ar wyliau o Ffrainc, lle mae wedi bod yn gwasanaethu am bron i ddeuddeng mis gyda Chorfflu’r Merched’. Ei swyddogaeth benodol hi oedd Gweinyddwr Technegol.
Ar ôl gadael Corfflu’r Merched, daeth yn fyfyriwr yng Ngholeg Amaeth Canolbarth Lloegr yn Kingston-on-Soar.
With thanks to Tenby Museum