Louisa Lewis-Lloyd

Louisa Beatrice Lewis-Lloyd was born in Nantgwyllt on 27th December 1867 and inherited Bloomfield House, Narberth, from her Aunt Elizabeth in 1923.

During her years in Pembrokeshire, Louisa became a well-respected, central figure in the community. She was a member of St. Andrew’s Church, a founder and life President of the town’s W.I. and ran the Girl Guides in Narberth, with meetings often held at Bloomfield.

Having been introduced to otter hunting on the River Wye by her Aunt Emmeline, Louisa was commemorated by Narberth Rugby Club who named their team ‘The Otters’ in her honour. During her lifetime she was president of both the rugby and cricket clubs and donated the land they continue to play on today.

In the 1920s and 30s, Louisa hired a car and chauffeur each summer to take the children of Narberth to the Elan Valley for a picturesque sightseeing tour and picnic at her own expense.

Louisa Lewis-Lloyd died, aged 84, in August 1952. She had no descendents, although her legacy remains present in the town today. The ‘Otters’ and local children play on her rugby and cricket pitches, Bloomfield House is a thriving community centre and the W.I and Girl Guides continue to bring social opportunities for women and girls.

Ganed Louisa Beatrice Lewis-Lloyd yn Nantgwyllt ar 27 Rhagfyr 1867 ac etifeddodd Bloomfield House, Arberth, gan ei Modryb Elizabeth yn 1923.

Yn ystod ei blynyddoedd yn Sir Benfro, daeth Louisa yn ffigwr canolog uchel ei pharch yn y gymuned. Roedd hi’n aelod o Eglwys Sant Andreas, yn sylfaenydd ac yn Llywydd oes W.I. y dref ac yn rhedeg y Girl Guides yn Arberth, gyda chyfarfodydd yn cael eu cynnal yn aml yn Bloomfield.

Ar ôl cael ei chyflwyno i hela dyfrgwn ar Afon Gwy gan ei Modryb Emmeline, cafodd Louisa ei choffáu gan Glwb Rygbi Arberth a enwodd eu tîm yn ‘Dyfrgwn’ i’w hanrhydeddu. Yn ystod ei hoes bu’n llywydd y clwb rygbi a’r clwb criced, a hi roddodd y tir iddynt lle maent yn parhau i chwarae arno heddiw.

Yn yr 1920au a’r 30au, roedd Louisa yn llogi car a chauffeur bob haf i fynd â phlant Arberth i Gwm Elan am daith i weld yr ardal a’r golygfeydd hyfryd a phicnic, a hithau oedd yn talu am y cyfan.

Bu farw Louisa Lewis-Lloyd yn 84 oed fis Awst 1952. Nid oedd ganddi ddisgynyddion, er bod ei gwaddol yn dal yn amlwg yn y dref hyd heddiw. Mae’r ‘Dyfrgwn’ a’r plant lleol yn chwarae ar ei chaeau rygbi a chriced, mae Bloomfield House yn ganolfan gymunedol lewyrchus ac mae’r W.I. a’r Girl Guides yn parhau i gynnig cyfleoedd cymdeithasol i fenywod a merched.

Categories: Business | Philanthropists | Public Servants

Related entries: