Margaret Jenkins

 In November 1928 Margaret Jenkins was elected the town’s first female Mayor in the town’s long civic history. Tenby elected its first Mayor in 1402 under a Royal Charter granted on the town by Henry IV, and Margaret became the town’s 526th.

Upon her election Margaret was a well-known figure in the town. She was the daughter of Mr Henry Banner and Mrs Banner of Smeaton in Haverfordwest and after marrying Tenby councillor John Jenkins she devoted herself to municipal work in the town.  In the early 1920s she was responsible for the formation of the 4th Pembrokeshire Red Cross Detachment, of which she acted as commandant for many years.  During the Second World War she organised the highly successful Red Cross depot at Tenby and the sending of British Legion welfare parcels to local children.  After the war she was awarded the British Red Cross Medal.

She first stood for Tenby Town Council in 1921 and was successful and sat continuously on the Council for 25 years, being the only woman member for much of this time.  She was unanimously voted to the position of Mayor.  Margaret also saw her daughter Annie Norman be the first woman to be elected to Pembrokeshire County Council in the 1940s.   In her year of office Margaret Jenkins was one of the thirteen women mayors in the country to be invited to a civic reception at Liverpool given by Mrs Margaret Bevan, the first woman Lord Mayor of Liverpool.

An article in The Vote: The Organ of the Women’s Freedom League (9 March 1928) Margaret featured on the front cover.  The article reveals much of her character and dedication to the needs of her community:

On the social reform and charitable side, Mrs Jenkins takes great interest in the question of the housing of the working classes, feeling that in better housing lie greater hopes of social betterment generally.  She is also a trustee of the Tenby Charities, and in that position has been active in work among the poor of the town.  In Church matters Mrs Jenkins is a staunch member of the Church of England, and takes an active part in Church work in her own district and also nationally….In all Council work Mrs Jenkins is careful to retain and manifest a non-Party and independent attitude, so that all the varied problems which inevitably come up for the solution by the Council are discussed and dealt with on their merits, without the interruption of political Party bias.

Margaret Jenkins died in 1953.  She was buried at Gumfreston Church and The Tenby Observer (20 February 1953) printed a substantial obituary.  The then Mayor, Councillor D, Tudor Hughes paid tribute to her: I am sure there is nothing I can say that you do not all feel and know about Mrs Jenkins.  Some of you knew her better than I did.  But however well we knew her there was something about Mrs Jenkins, her personality possibly, which attracted one to her and I am sure that not only the town of Tenby but the whole district will miss her very much indeed.

The Western Telegraph and Cymric Times (19 February 1953) observed:

Always ready to champion a good cause, she won adherents by her rare charm and tactful approach, and the value placed by the Borough on her service was reflected in her returns as the polls, by her election as Mayor in 1927-28, by her elevation to the Aldermanic bench, and by the conferring of the Freedom of Tenby when she retired from municipal duties after nearly 30 years unstinted work in the public weal…Her loss will be keenly felt, but the memory of her countless good works will remain fragrant.

Fis Tachwedd 1928 Margaret Jenkins oedd y fenyw gyntaf erioed i gael ei hethol yn Faer yn hanes hir y dref. Etholwyd Maer cyntaf Dinbych-y-pysgod mor bell yn ôl â’r flwyddyn 1402 o dan Siarter Frenhinol a roddwyd i’r dref gan Harri IV, a Margaret oedd Maer y dref rhif 526.

Pan gafodd Margaret ei hethol, roedd yn berson adnabyddus iawn yn y dref. Roedd yn ferch i Mr Henry Banner a Mrs Banner o Smeaton yn Hwlffordd, ac ar ôl priodi’r Cynghorydd tref Dinbych-y-pysgod, John Jenkins, ymrwymodd i’r gwaith dinesig yn y dref.  Ddechrau’r 1920au hi oedd yn gyfrifol am ffurfio 4edd Mintai’r Groes Goch yn Sir Benfro, a hi oedd pennaeth y fintai am flynyddoedd lawer. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd hi oedd wedi trefnu depo hynod lwyddiannus y Groes Goch yn Ninbych-y-pysgod, ac anfon parseli llesiant y Lleng Brydeinig at blant lleol.  Ar ôl y rhyfel derbyniodd Fedal y Groes Goch Brydeinig.

Safodd gyntaf i Gyngor Tref Dinbych-y-pysgod yn 1921 pan lwyddodd i ennill y sedd, a hi fu cynghorydd yr ardal ar y Cyngor am gyfnod di-dor o 25 mlynedd, sef yr unig aelod benywaidd am lawer o’r amser hwnnw.  Etholwyd hi yn unfrydol i swydd y Maer. Roedd merch Margaret, Annie Norman, hefyd wedi’i hethol yn ferch gyntaf i fod yn aelod o Gyngor Sir Penfro yn y 1940au.   Yn ei blwyddyn fel Maer, roedd Margaret Jenkins yn un o’r 13 o feiri benywaidd yn y wlad i gael eu gwahodd i dderbyniad dinesig yn Lerpwl gan Mrs Margaret Bevan, y fenyw gyntaf i fod yn Arglwydd Faer Lerpwl.

Mewn erthygl yn The Vote: The Organ of the Women’s Freedom League (9 Mawrth 1928) llun Margaret oedd ar y clawr. Mae’r erthygl yn datgelu llawer am ei chymeriad a’i hymroddiad i anghenion ei chymuned:

O ran y diwygiad cymdeithasol a’r ochr elusennol, mae Mrs Jenkins yn ymddiddori’n fawr yn y cwestiwn o gartrefu’r dosbarthiadau gweithiol, gan farnu bod gwell tai yn esgor ar fwy o obaith o gael gwell amodau cymdeithasol yn gyffredinol. Mae hi hefyd yn ymddiriedolwr Elusennau Dinbych-y-pysgod, ac yn y swydd honno mae hi wedi bod yn weithgar i wella amodau byw y tlodion yn y dref. O ran materion yr Eglwys, mae Mrs Jenkins yn aelod ffyddlon o Eglwys Loegr, ac mae’n cymryd rhan weithgar yng ngwaith yr Eglwys yn ei hardal ei hun a hefyd yn genedlaethol….Ym mhob gwaith y Cyngor mae Mrs Jenkins yn ofalus i gadw ac amlygu agwedd amhleidiol ac annibynnol, fel bod yr holl broblemau amrywiol sy’n anochel yn codi i’r Cyngor eu datrys yn cael eu trafod a’u trin yn ôl eu teilyngdod, heb ymyrraeth plaid wleidyddol.

Bu farw Margaret Jenkins ym 1953.  Fe’i claddwyd yn Eglwys Gumfreston, ac argraffodd y Tenby Observer (20 Chwefror 1953) deyrnged gynhwysfawr iddi. Talodd y Maer ar y pryd, y Cynghorydd D. Tudor Hughes deyrnged iddi: Rwy’n siŵr nad oes dim y gallaf ei ddweud nad ydych i gyd yn teimlo ac yn gwybod am Mrs Jenkins. Bydd rhai ohonoch yn ei hadnabod yn well nag oeddwn i. Ond waeth pa mor dda yr oeddem yn ei hadnabod roedd yna rywbeth am Mrs Jenkins, ei phersonoliaeth o bosibl, oedd yn denu rhywun ati, ac rwy’n siŵr y bydd yr ardal gyfan nid dim ond tref Dinbych-y-pysgod yn gweld ei heisiau yn fawr iawn.

Yn ôl y Western Telegraph a’r Cymric Times (19 Chwefror 1953):

Roedd Margaret bob amser yn barod i hyrwyddo achosion da, ac yn denu cefnogwyr gan ei gallu prin i swyno a’i hymagwedd ystyriol, ac roedd y gwerth a roddwyd gan y Fwrdeistref ar ei gwasanaeth yn cael ei amlygu yn y niferoedd oedd yn pleidleisio drosti yn yr etholiadau, y Cyngor yn ei hethol hi yn Faer yn 1927-28, cael ei dyrchafu i fainc yr Henaduriaid, a chael ei hurddo â Rhyddid Dinbych-y-pysgod pan ymddeolodd o ddyletswyddau dinesig ar ôl bron i 30 mlynedd o waith di-flino mewn bywyd cyhoeddus … Bydd y golled ar ei hôl yn enfawr, ond bydd y cof am ei gwaith da rhif y gwlith yn parhau’n fyw am amser hir.

With thanks to Tenby Museum

Mark Lewis Deeds not Words: A Celebration of Women and Tenby, 2018

Categories: Philanthropists | Public Servants | Uncategorized

Related entries: