Iris de Freitas Brazao was born on 29th October 1896 in what is now Guyana. Iris arrived to study at Aberystwyth University after a short period in Toronto. While at university, she studied Botany, Latin and Modern Languages and Law; graduating as Bachelor of Arts in 1922.
Iris continued her studies, was leader of Students’ Representative Council, President of the Women’s Sectional Council, and went on to achieve the LL.B in 1927 before returning to the Caribbean where she became the first woman to practice law in 1929. Her career highlights also included being the first female prosecutor in a murder trial in the region.
In 1937, Iris married Alfred Casimiro Brazao and she continued to practice law in Georgetown. She died in 1989 and her Welsh connection was rediscovered by staff at Aberystwyth in 2016 when the discovered a postcard containing a photograph of her in academic robes. The university has since named a room in her honour.
Tributes to Iris described her as ‘a pioneer and frontrunner of women who dared enter the exclusively male legal profession’.
Ganed Iris de Freitas Brazao ar 29 Hydref 1896 yn y wlad a enwir bellach yn Guyana. Daeth Iris i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ôl cyfnod byr yn Toronto. Tra yn y brifysgol, astudiodd Botaneg, Lladin a Ieithoedd Modern a’r Gyfraith a llwyddo i gael gradd B.A. yn 1922.
Parhaodd Iris â’i hastudiaethau, bu’n arweinydd Cyngor Cynrychioli Myfyrwyr, Llywydd Cyngor Adrannol y Merched, ac aeth ymlaen i gael gradd LL.B. yn 1927 cyn dychwelyd i’r Caribî lle hi oedd y fenyw gyntaf i ymarfer y gyfraith yn 1929. Roedd uchafbwyntiau ei gyrfa hefyd yn cynnwys bod yn erlynydd benywaidd cyntaf mewn achos o lofruddiaeth yn y rhanbarth.
Yn 1937, priododd Iris ag Alfred Casimiro Brazao a pharhaodd i ymarfer y gyfraith yn Georgetown. Bu farw yn 1989 ac ail-ddarganfuwyd ei chysylltiad â Chymru gan staff yn Aberystwyth yn 2016 pan ddaethpwyd ar draws cerdyn post yn cynnwys ffotograff ohoni mewn gwisg academaidd. Ers hynny mae’r brifysgol wedi enwi ystafell er cof amdani.
Roedd teyrngedau i Iris wedi’i disgrifio fel ‘arloeswraig a rhagflaenydd menywod a feiddiodd fynd i’r proffesiwn cyfreithiol oedd yn neilltuedig i ddynion yn unig‘.
*With thanks to Aberystwyth University Archives