Eva Beynon was born in Narberth, Pembrokeshire in 1925. As a child she was described as ‘one of (the) most talented protégés’ in a local dance school run by local jeweler’s wife Sybil Noott. The group staged pantomimes and musical revues at the Victoria Hall, which ignited Eva’s passion for entertainment that later developed into a successful career.
While still in her teens, Eva moved to London where she sang with the Ambrose Orchestra before joining the Henry Hall Dance Band for his Guest Night radio programmes. When WWII broke out, Eva travelled across Europe on Entertainments National Service Association (ENSA) tours to entertain the troops.
Eva became increasingly well known and regarded through her broadcasts. She eventually appeared with the Joe Loss Band (who had hits such as ‘In the Mood’) and with the Billy Ternant Orchestra where she recorded several 78rpm records. It is believed that she went on to marry Billy Ternant who was himself an accomplished musician and conductor, providing backing for Frank Sinatra when he performed in the UK.
A photograph of Eva Beynon in Eindhoven, Holland, shows her in her ENSA uniform alongside Betty Driver who acted in Coronation Street and Howell Evans who starred in ‘The Englishman who went up a Hill but came down a Mountain’ alongside Hugh Grant. Henry Hall wrote of this time that ‘we travelled and played, played and travelled on…everybody danced and danced and never tired.’
Ganed Eva Beynon yn Arberth, Sir Benfro yn 1925. Fel plentyn, fe’i disgrifiwyd fel ‘un o’r protégés’ mwyaf talentog’ mewn ysgol ddawns leol a redwyd gan wraig y gemydd lleol, Sybil Noott. Llwyddodd y grŵp i gynnal pantomeimiau a rifiwiau cerdd yn Neuadd Victoria, a daniodd angerdd Eva mewn adloniant a ddatblygodd yn ddiweddarach yn yrfa lwyddiannus.
Tra’n dal yn ei harddegau, symudodd Eva i Lundain lle bu’n canu gyda Cherddorfa Ambrose cyn ymuno â Band Dawns Henry Hall ar ei raglenni radio Noson Gwestai. Pan dorrodd yr Ail Ryfel Byd, teithiodd Eva ar draws gwledydd Ewrop ar deithiau Cymdeithas Gwasanaeth Cenedlaethol Diddanu (ENSA) i ddiddanu’r milwyr.
Daeth Eva yn fwy fwy adnabyddus a phoblogaidd drwy ei darllediadau. Yn y pen draw, ymddangosodd gyda’r Band Joe Loss (a gafodd lwyddiannau megis ‘In the Mood’) a gyda Cherddorfa Billy Ternant lle recordiodd nifer o recordiau 78rpm. Credir iddi fynd ymlaen i briodi Billy Ternant oedd yn gerddor ac yn arweinydd dawnus oedd yn chwarae cerddoriaeth gefndir i Frank Sinatra pan oedd yn perfformio yn y DU.
Mae llun o Eva Beynon yn Eindhoven, Yr Iseldiroedd, yn ei gwisg ENSA ochr yn ochr â Betty Driver fu’n actio yn Coronation Street, a Howell Evans fu’n serennu yn ‘The Englishman who went up a Hill but came down a Mountain’ ochr yn ochr â Hugh Grant. Ysgrifennodd Henry Hall am yr adeg hon ‘buom yn teithio a chwarae, chwarae a theithio … roedd pawb yn dawnsio ac yn dawnsio a byth yn blino.’