Audrey Harkett was born in January 1923 in Narberth, Pembrokeshire. From a long-established family of skilled wheelwrights, Audrey’s grandfather started his business at Northfield Road and was previously worked at Longacre, London where many royal coaches were repaired and built.
The Harkett reputation was based on the quality of their materials and work. Audrey’s uncle, James, stated ‘we used to pick our own timber from the forests and farms: Elm for the wheel hubs, oak for the spokes and framing, ash for the shafts and fellowes…’
The Harketts were clearly a close family as several members and generations of men worked very closely together throughout their lives. In a letter to Narberth Museum one descendent describes an annual family trip to the beach: ‘Every year the family would take off on the train, with Primus stove, methylated spirits and kettle etc. When they had got off the train they would walk for ages ‘til they reached a track that led them to what they personally names Harkett’s Rock: A large rock on the beach which they claimed each year for one day. There, the tea was made…’
For Audrey Harkett, the outbreak of war brought both fear and opportunity to experience an independent and faster-paced way of life. Aged 18 years, she joined the civil service and soon found herself in London during the blitz. A newspaper report from May 1941 runs with the headline ‘TERRIFYING EXPERIENCE IN LONDON AIR RAID’ and describes how Audrey was on duty as a fire watcher in West Kensington on 16th April 1941.
It reports, via a letter to her parents, how ‘100 incendiary bombs dropped to (her) knowledge and four huge fires were started in a semi-circle. High explosive and oil bombs were also dropped, and the huge red glaring flames which sprang up when they were released were terrifying to see’.
While Audrey was clearly shaken and alarmed by her ordeal, her description continues with an air of exhilaration. Her experiences were very different to the relatively quiet, laid back lifestyle back home, where her family business relied on precise, artisan methods of working. She writes: ‘Think of dozens of firebells clanging out into the night, whistles shrieking and engines roaring, and then you will realize how it felt’. She summarises the experience as ‘terrifyingly intense’.
Audrey Harkett’s wartime recollections offer a valuable primary resource and insight into the horrors of the Blitz, the role of women during WWII and the stark contrast between rural and urban life. The aftermath of her experience in 1941 is a poignant reminder of the impact of war on human lives: ‘Groups of people in bandages and plaster stood around the ruined shops. Broken china, dusty material, hats, umbrellas, furniture, jewellery and flowers were all mixed up with the clothes’.
Ganed Audrey Harkett fis Ionawr 1923 yn Arberth, Sir Benfro. Roedd yn hannu o deulu o seiri olwynion medrus, a dechreuodd tad-cu Audrey ei fusnes yn Heol Northfield ar ôl bod yn gweithio yn Longacre, Llundain lle cafodd nifer o goetsys brenhinol eu hatgyweirio a’u hadeiladu.
Roedd enw da Harkett fel busnes yn seiliedig ar ddefnyddio deunyddiau crai o safon ac ar eu gwaith crefftus. Dywedodd ewythr Audrey, James, ‘roedden ni’n arfer dewis ein coed ein hunain o’r coedwigoedd a’r ffermydd: Llwyfen ar gyfer bogail yr olwyn, derw ar gyfer yr adeiniau a’r ffrâm, onnen ar gyfer y siafftiau a’r ategolion…’
Roedd yr Harketts yn amlwg yn deulu agos gan fod nifer o aelodau a chenedlaethau o ddynion wedi cydweithio’n agos iawn drwy gydol eu hoes. Mewn llythyr at Amgueddfa Arberth mae un disgynnydd yn disgrifio trip blynyddol y teulu i’r traeth: ‘Bob blwyddyn byddai’r teulu yn mynd ar y trên, gyda stôf Primus, meths a thegell ac ati. Ar ôl disgyn o’r trên byddent yn cerdded am hydoedd ‘nes cyrraedd llwybr oedd yn eu harwain at yr hyn a enwyd ganddynt yn Graig Harkett: Craig fawr ar y traeth yr oeddent yn ei hawlio bob blwyddyn am ddiwrnod. Yno y gwnaed y te…’
I Audrey Harkett, roedd y rhyfel wedi peri braw yn ogystal â chyfle i fyw bywyd annibynnol a llawn bwrlwm. Yn 18 oed, ymunodd â’r gwasanaeth sifil a chyn hir cafodd ei hun yn Llundain yn ystod y blitz. Mae adroddiad papur newydd mis Mai 1941 o dan y pennawd ‘PROFIAD BRAWYCHUS MEWN CYRCH AWYR YN LLUNDAIN’ yn disgrifio sut oedd Audrey ar ddyletswydd fel gwyliwr tân yng Ngorllewin Kensington ar yr 16eg o Ebrill 1941.
Mae’r adroddiad yn dyfynnu llythyr at ei rhieni yn disgrifio sut oedd ‘100 o fomiau tân wedi’u gollwng o’r awyr wedi achosi i bedwar tân enfawr gynnau mewn hanner cylch. Hefyd cafodd bomiau ffrwydrol a bomiau olew eu gollwng, ac roedd y fflamau coch eirias a gododd wrth iddynt danio yn frawychus i’w gweld’.
Er bod Audrey yn amlwg wedi’i hysgwyd a’i dychryn i’r carn gan y fath brofiad, mae ei disgrifiad yn parhau yn llawn cyffro. Roedd ei phrofiadau yn wahanol iawn i’r ffordd o fyw eithaf tawel, di-gyffro yn ôl adref, lle’r oedd ei busnes teuluol yn dibynnu ar ddulliau gweithio manwl, crefftus. Mae hi’n ysgrifennu: ‘Meddyliwch am ddwsinau o beli tân yn ffrwydro yn yr awyr yn y nos, sŵn chwiban sgrechlyd a pheiriannau’n rhuo, ac yna byddwch yn sylweddoli sut deimlad oedd hi’. Mae hi’n crynhoi’r profiad fel profiad ‘ingol ac arswydus’.
Mae atgofion Audrey Harkett yn ystod y rhyfel yn cynnig adnodd gwerthfawr a dirnadaeth i ni o erchyllterau’r Blitz, rôl menywod yn ystod yr Ail Ryfel Byd a’r gwrthgyferbyniad llwyr rhwng bywyd cefn gwlad a bywyd y dref. Mae canlyniadau’r bomio yn 1941 yn ein hatgoffa o effaith rhyfel ar fywydau pobl: ‘Roedd grwpiau o bobl mewn rhwymynnau a phlaster yn sefyll o gwmpas adfeilion y siopau. Roedd llestri wedi’u malu, deunydd llychlyd, hetiau, ymbarelau, dodrefn, gemwaith a blodau i gyd yn gymysg â’r dillad’.