Alice Davies

Alice Davies was born on 10th Aug 1859, and lived at Angle House, St. James Street, Narberth, Pembrokeshire. The National School Admission Registers & Log Books 1870-1914 for Narberth reveal much about her life as a student teacher in the Board School that she had attended since childhood.

By 1874, Alice was described as a ‘3rd year student teacher,’ implying that she had been teaching since the age of 12. Early that year, she had experienced a week of illness and was described as ‘weak and unable to attend fully to her duties.’ (27th Feb 1874). Furthermore, by the summer, her senior Robert Falconer revealed ‘(she) does not attend to her own homework and was absent from two lessons’.

Clearly, Alice’s journey to being a qualified teacher was not straightforward. Two years later an assessor remarked on her grammar lesson to the infant class: ‘Too much questioning, not enough teaching.’ By summer 1876 her ‘lessons (were) incomplete. To be regretted.’ However, it is also evident that poor health was something that affected Alice throughout her career. It should perhaps be noted that she nevertheless remained determined to fulfil her duties. On 23rd Jan 1877 ‘she appeared very ill: ‘Advised her to stay home against her wishes’. Subsequently, on Tuesday 13th March 1877 ‘not quite well since the rather serious illness of January 23rd. Inconvenience consequently caused’.

After a stint at Siittingbourne, Kent, Alice’s fortunes seem to have improved. She returned to Pembrokeshire and on 17th June 1878 the log books recorded: ‘Davies should be informed that she is now qualified under article 79;’ signed H. Phillips, Geography. As a fully-qualified teacher, Alice Davies made a significant contribution to the success of the school as described in an inspector’s report: ‘The report of Her Majesty’ Inspector of the Narberth Board School has just come to hand, and is very satisfactory, which reflects great credit upon Mr J. B. Williams, the present master… This school has made very fair progress during the past year. The reading and writing of the school were good, and the arithmetic and composition of the 6th and 6th standards were good, but the arithmetic of the lowest standards was not so good’.

Alice Davies later became headmistress at Angle school for 37 years. Over the years her health improved and upon retirement ‘Age seem(ed) to have touched Miss Davies lightly and her former pupils will be pleased to learn that she enjoys good health…’

A report on 10th Aug 1839 celebrates her 80th birthday and reveals she ‘had the distinction of being the first female teacher of holding an appointment at Narberth under the (Elementary Education) Act of 1870.’  This act provided the initial framework for compulsory education for 5-12 year olds.

She lived all her adult life with her brother James, a tailor.

Ganed Alice Davies ar y 10fed o Awst 1859, a bu’n byw yn Angle House, Stryd St. James, Arberth, Sir Benfro.  Mae Cofrestri Derbyniadau a Loglyfrau yr Ysgol yn Arberth 1870-1914 yn datgelu llawer am ei bywyd fel athrawes dan hyfforddiant yn yr Ysgol Fwrdd a fynychodd ers ei phlentyndod.

Erbyn 1874, disgrifiwyd Alice fel ‘athrawes 3edd blwyddyn dan hyfforddiant’ sy’n awgrymu ei bod wedi bod yn addysgu ers yn 12 oed.  Yn gynnar y flwyddyn honno, roedd wedi bod yn sâl am wythnos ac fe’i disgrifiwyd fel merch ‘wan ac yn methu â chyflawni ei dyletswyddau yn llawn.’ (27ain Chwefror 1874).  Hefyd, erbyn yr haf, datgelodd ei huwch athro Robert Falconer ‘nid yw hi’n gwneud ei gwaith cartref ei hun, ac roedd yn absennol o ddwy wers’.

Yn amlwg, nid oedd taith Alice i fod yn athrawes gymwys yn un ddirwystr. Ddwy flynedd yn ddiweddarach roedd asesydd wedi nodi am ei gwers ramadeg i’r dosbarth plant bach: ‘Gormod o gwestiynu, dim digon o addysgu.’  Erbyn haf 1876, roedd ei ‘gwersi yn anghyflawn.  Mae hyn yn peri gofid.’  Fodd bynnag, mae hefyd yn amlwg bod iechyd gwael yn rhywbeth oedd wedi effeithio ar Alice drwy gydol ei gyrfa.  Serch hynny dylid nodi ei bod wedi parhau i fod yn benderfynol o gyflawni ei dyletswyddau.  Ar y 23ain o Ionawr 1877 ‘roedd hi’n ymddangos yn sâl iawn: ‘Cynghorwyd hi i aros gartref yn erbyn ei hewyllys’.  Yn dilyn hynny, ddydd Mawrth y 13eg o Fawrth 1877 ‘nid oedd wedi gwella’n llwyr ers ei salwch difrifol ar Ionawr 23ain.  Achoswyd anghyfleustra o ganlyniad i hyn’.

Ar ôl cyfnod yn Siittingbourne, Caint, ymddengys bod pethau wedi gwella i Alice.  Dychwelodd i Sir Benfro, ac ar yr 17eg o Fehefin 1878, cofnodwyd yn y llyfrau log: ‘Dylid rhoi gwybod i Davies ei bod hi bellach yn gymwys o dan erthygl 79;’ llofnodwyd H. Phillips, Daearyddiaeth.  Fel athrawes â chymwysterau llawn, gwnaeth Alice Davies gyfraniad sylweddol i lwyddiant yr ysgol fel y disgrifiwyd mewn adroddiad arolygydd: ‘Mae adroddiad Arolygydd Ei Mawrhydi ar Ysgol Fwrdd Arberth newydd ddod i law, ac mae’n foddhaol iawn, sy’n glod mawr i Mr JB Williams, y meistr presennol… Mae’r ysgol hon wedi gwneud cynnydd da iawn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.  Roedd darllen ac ysgrifennu yr ysgol yn dda, ac roedd rhifyddeg a darllen a deall dosbarth 6 yn dda, ond nid oedd rhifyddeg y dosbarthiadau isaf cystal’.  

Yn ddiweddarach daeth Alice Davies yn brifathrawes ysgol Angle am 37 o flynyddoedd.  Dros y blynyddoedd gwelwyd gwelliant yn ei hiechyd ac ar ôl ei hymddeoliad ‘Nid yw oedran wedi effeithio rhyw lawer ar Miss Davies, a bydd ei chyn-ddisgyblion yn falch o glywed ei bod yn mwynhau iechyd da…’.  

Mae adroddiad ar y 10fed o Awst 1839 yn dathlu ei phen-blwydd yn 80 ac yn datgelu ei bod ‘wedi cael y fraint o fod yr athrawes gyntaf i gael ei phenodi yn Arberth o dan Ddeddf Addysg Elfennol 1870’.  Y ddeddf hon oedd y fframwaith cychwynnol ar gyfer addysg orfodol i blant 5-12 oed.

Treuliodd ei bywyd cyfan fel oedolyn gyda’i brawd James, teiliwr.

Categories: Education | Public Servants

Related entries: