Dorothy Cole was born in Tenby, Pembrokeshire during the 16th Century. Her father, John, was a merchant with trading links to Bristol as well as being mayor of the town. In 1540, his wife (Dorothy’s mother) travelled to Bristol on business, which was not unique for women during the Tudor period. ‘There are records of others from Usk, Cardiff, Newport and Swansea making the journey to deliver money or goods for their husbands’.* It is thought that Dorothy’s mother travelled to pay off debts accrued by John.
The Cole family subsequently arranged an apprenticeship for Dorothy with William Butler, Soap Maker, in 1547. At this time, soap making was a major industry in the city with a soft soap known as ‘Bristol Soap’ and a harder type known as ‘Bristol Grey’** being supplied to London at a cost of ‘one penny per pound’.
Soap was originally developed in Britain by artisans for ‘use in the cloth industry, to prepare wool for dyeing, and not for personal hygiene’.***Recipes were secret and passed down from master to apprentice. At the time of Dorothy’s apprenticeship, the recipe would have been made from oil extracted from whale blubber, olive oil or tallow. However, these were constantly evolving as imported ingredients such as ‘palm, coconut, olive…and linseed oils offered a wider choice of raw materials’ and also explained the growth of trades such as soap making in cities with ports.
Earlier soap recipes had proved problematic with large swathes of British woodland destroyed in the 13th Century to meet the demand for wood ashes. Similarly, in Dorothy’s lifetime, the use of tallow fell out of favour because it smelt awful and ‘its manufacture would deplete the nation’s tallow reserves, thereby driving up the cost of candles beyond the reach of the poor’.
Records preserved in the Bristol archives reveal that of the 1,500 apprentices registered in the city between 1542 and 1552, 45 to 50 of them were female so while in the minority, Dorothy Cole was not alone. Most women trained as ‘soap makers, glovers…and as seamstresses’ and many other Welsh girls became apprentices to skilled craftswomen in their own country. Historian Terry John discovered that Johanna Roberts of Cardiff also trained as a soap maker with Nicholas and Lettice Shay. There were also twelve female apprentices from Monmouthshire, four from Glamorgan, two from Pembrokeshire and one from Carmarthenshire between 1532 and 1552.
Ganed Dorothy Cole yn Ninbych-y-pysgod, Sir Benfro yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg. Roedd ei thad, John, yn fasnachwr gyda chysylltiadau masnach â Bryste, yn ogystal â bod yn faer y dref. Yn 1540, teithiodd ei wraig (mam Dorothy) i Fryste ar fusnes, nad oedd yn beth anghyffredin i fenywod yn ystod cyfnod y Tuduriaid. ‘Mae cofnodion am eraill o Frynbuga, Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe yn gwneud y daith i dalu arian neu i gludo nwyddau ar ran eu gwŷr’.* Credir bod mam Dorothy wedi teithio yno i dalu dyledion a gronnwyd gan John.
Yn dilyn hyn, trefnodd y teulu Cole brentisiaeth i Dorothy gyda William Butler, Gwneuthurwr Sebon, yn 1547. Yr adeg hon, roedd gwneud sebon yn ddiwydiant o bwys yn y ddinas. Gelwid y sebon meddal yn ‘Sebon Bryste’ a’r math caletach yn ‘Bryste Llwyd’ ** oedd yn cael ei gyflenwi i Lundain ar gost o ‘geiniog y pwys’.
Datblygwyd sebon yn wreiddiol ym Mhrydain gan weithwyr i’w ‘ddefnyddio yn y diwydiant brethyn, i baratoi gwlân ar gyfer lliwio, ac nid ar gyfer hylendid personol’.* ** Roedd y ryseitiau yn gyfrinachol ac yn cael eu trosglwyddo o’r meistr i’r prentis. Adeg prentisiaeth Dorothy, byddai’r rysáit wedi’i wneud o olew o fraster morfil, olew olewydd neu wêr. Fodd bynnag, roedd y ryseitiau hyn yn esblygu’n gyson wrth i gynhwysion a fewnforiwyd, megis ‘olew palmwydd, cnau coco, olew olewydd… ac olew had llin gynnig dewis ehangach o ddeunyddiau crai’ oedd hefyd yn esbonio twf masnach megis gwneud sebon mewn dinasoedd â phorthladdoedd.
Roedd ryseitiau sebon cynharach wedi bod yn broblematig gyda rhannau helaeth o goetir Prydain yn cael eu dinistrio yn y drydedd ganrif ar ddeg i ateb y galw am ludw pren. Yn yr un modd, yn ystod oes Dorothy, roedd defnyddio gwêr yn llai a llai poblogaidd gan fod arogl mor ofnadwy arno ac ‘y byddai ei gynhyrchu ar raddfa fawr yn disbyddu cyflenwad y genedl o wêr, gan arwain at gynyddu cost canhwyllau y tu hwnt i gyrraedd y tlawd’.
Mae’r cofnodion a gedwir yn archifau Bryste yn datgelu bod 45 i 50 o blith y 1,500 o brentisiaid a gofrestrwyd yn y ddinas rhwng 1542 a 1552 yn fenywod, felly er bod menywod yn y lleiafrif, nid oedd Dorothy Cole ar ei phen ei hun. Roedd y rhan fwyaf o fenywod wedi’u hyfforddi fel ‘gwneuthurwr sebon, gwneuthurwr menig… ac fel gwniyddes’ a daeth llawer o ferched eraill o Gymru yn brentisiaid i grefftwragedd medrus yn eu gwlad eu hunain. Darganfu’r hanesydd Terry John bod Johanna Roberts o Gaerdydd hefyd wedi’i hyfforddi fel gwneuthurwr sebon gyda Nicholas a Lettice Shay. Hefyd roedd deuddeg o fenywod yn brentisiaid o Sir Fynwy, pedair o Forgannwg, dwy o Sir Benfro ac un o Sir Gaerfyrddin rhwng 1532 a 1552.
*Terry John, Tudor Women Lecture at Narberth Museum, 2019.
**https://www.pharmecutical-journal.com
***https://www.open.edu/openlearn